Gwyl yr Adar Gleision o Adre: Dadlwythwch ein pecynnay adnoddau Croeso i fersiwn 2 o Ŵyl yr Adar Gleision o Adre gyda Cardiff City FC Foundation. Mae’r ŵyl wythnos o hyd yn hybu lles a dysgu plant drwy gyfrwng gweithgareddau a phecynnau adnoddau am ddim ar thema pêl-droed ar gyfer plant y Blynyddoedd Cynnar, y Cyfnod Sylfaen, a Chyfnod Allweddol 2. Mae dydd Llun i ddydd Iau wedi'u rhannu'n dair rhan - un wers lles, un wers llythrennedd neu rifedd a her ymarfer corff. Mae'r gwersi a'r gweithgareddau hyn wedi'u creu i gefnogi'ch plentyn i fod yn actif ac i hybu eu datblygiad a'u dysgu Mae'r dydd Gwener wedi'i neilltuo ar gyfer diwrnod llawn hwyl o ymarferion corfforol. Mae'r rhain wedi'u cynllunio gan y bydd llawer o blant yn colli allan ar gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod y cyfnod clo presennol. Mae yna chwe rownd o ymarferion gyda dewis o ddwy ymarfer ym mhob rownd. Dyluniwyd y gweithgareddau hyn heb fod angen fawr ddim offer, os o gwbl, ond dylai unrhyw offer sydd ei angen fod yn eitemau y gallwch ddod o hyd iddynt o amgylch eich tŷ. Gobeithio y cewch chi hwyl yn cymryd rhan yn Gŵyl yr #AdarGleisionOAdre. Gellir lawrlwytho adnoddau dyddiol isod! Pecynnau adnoddau Dydd Llun EYFS Cyfnod Sylfaen Cyfnod Allweddol Dau Dydd Mawrth EYFS Cyfnod Sylfaen Cyfnod Allweddol Dau Dydd Mercher EYFS Cyfnod Sylfaen Cyfnod Allweddol Dau Dydd Iau EYFS Cyfnod Sylfaen Cyfnod Allweddol Dau Dydd Gwener Diwrnod Chwaraeon