
Premier League Kicks
Mae Kicks yn rhaglen allgymorth i bobl ifanc sy’n ceisio creu cymunedau mwy diogel, mwy cynhwysol a lleihau troseddu...
Mae sesiynau Kicks Prif Gynghrair Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd yn rhoi mynediad i bobl ifanc rhwng 14-19 oed i sesiynau pêl-droed am ddim mewn amgylchedd diogel.
Ymunwch â’n hyfforddwyr proffesiynol i gael gemau pêl-droed hwyliog mewn grwpiau llai, dan reolaeth, sy’n cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd dychwelyd yn raddol i hyfforddiant pêl-droed yn edrych, ewch i wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Cliciwch yma i weld Cwestiynau Cyffredin am Kicks neu dewiswch sesiwn yn eich ardal chi a chofrestru eich diddordeb i fod yn bresennol isod.
3G Awyr Agored Parc Trelái - Caerau: Dydd Llun 6-8pm
3G Awyr Agored Canolfan Hamdden y Dwyrain - Tredelerch
Dydd Mawrth: 6-8pm
Cromen Campws Canolog Caerdydd a’r Fro – Butetown (Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid: yn dechrau ar 13 Ionawr): Dydd Iau 5pm - 6pm
Merthyr Valleys Homes - Merthyr: Dydd Mercher 5:30-7:30pm
3G Canolfan Hamdden Heolddu – Bargoed: Dydd Mercher 5pm - 6pm
3G Gerddi’r Grange - Grangetown: Dydd Mercher 6-8pm
Canolfan Hamdden Colcot – Y Barri: Dydd Iau 6:30-8pm
Cromen Campws Canolog Coleg Caerdydd a’r Fro – Butetown: Dydd Iau 6pm - 7pm
Neuadd Chwaraeon Powerhouse Hub - Llanedeyrn: Dydd Iau 6-8pm
3G Awyr Agored Canolfan Chwaraeon Glyn Ebwy - Glyn Ebwy: Dydd Gwener 6-8pm
3G Awyr Agored Canolfan Hamdden Sobell - Aberdâr: Dydd Gwener 6-8pm
3G Canolfan Hamdden Pentwyn – Pentwyn: Dydd Gwener 6-8pm
Coleg Cymunedol y Dderwen – Pen-y-bont ar Ogwr: Dydd Gwener 7-9pm
3G Gerddi’r Grange - Grangetown: Dydd Gwener 6-8pm
Mae Kicks yn rhaglen allgymorth i bobl ifanc sy’n ceisio creu cymunedau mwy diogel a lleihau troseddu. Mae Kicks yn rhoi mynediad i bobl ifanc yn Ne Cymru at sesiynau pêl-droed am ddim, gweithgareddau ar-lein, a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol yn ogystal ag ymgysylltu â phobl ifanc drwy waith ieuenctid allgymorth.
Os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich cartref wedi dangos symptomau COVID-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, neu os ydych chi wedi dychwelyd yn ddiweddar o wlad lle mae angen i chi fod mewn cwarantin, peidiwch â threfnu na mynd i safle Kicks.
The site uses cookies to enable functionality and provide site usage data. Details can be found in our Privacy Policy. Continuing to use this site implicitly accepts this usage of cookies.