
Premier League Kicks
Cynhelir ein sesiynau Junior Kicks drwy gydol yr wythnos ar draws de Cymru...
Mae sesiynau Kicks Prif Gynghrair Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd yn rhoi mynediad i bobl ifanc rhwng 11-13 oed i sesiynau pêl-droed am ddim mewn amgylchedd diogel.
Ymunwch â’n hyfforddwyr proffesiynol i gael gemau pêl-droed hwyliog mewn grwpiau llai, dan reolaeth, sy’n cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd dychwelyd yn raddol i hyfforddiant pêl-droed yn edrych, ewch i wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Cliciwch yma i weld Cwestiynau Cyffredin am Kicks neu dewiswch sesiwn yn eich ardal chi a chofrestru eich diddordeb i fod yn bresennol isod.
3G Awyr Agored Trelái - Caerau: Dydd Llun 5-6pm
3G Gerddi’r Grange
- Grangetown: Dydd Mercher 5-6pm
Canolfan Chwaraeon Colcot – Y Barri: Dydd Iau 5-6.30pm
3G Awyr Agored Canolfan Chwaraeon Glyn Ebwy - Glyn Ebwy: Dydd Gwener 5-6:30pm
3G Awyr Agored Canolfan Hamdden Sobell - Aberdâr: Dydd Gwener 5-6:30pm
3G Gerddi’r Grange - Grangetown: Dydd Gwener 5-6:30pm
Mae Kicks yn rhaglen allgymorth i bobl ifanc sy’n ceisio creu cymunedau mwy diogel a lleihau troseddu. Mae Kicks yn rhoi mynediad i bobl ifanc yn Ne Cymru at sesiynau pêl-droed am ddim, gweithgareddau ar-lein, a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol yn ogystal ag ymgysylltu â phobl ifanc drwy waith ieuenctid allgymorth.
Os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich cartref wedi dangos symptomau COVID-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, neu os ydych chi wedi dychwelyd yn ddiweddar o wlad lle mae angen i chi fod mewn cwarantin, peidiwch â threfnu na mynd i safle Kicks.
The site uses cookies to enable functionality and provide site usage data. Details can be found in our Privacy Policy. Continuing to use this site implicitly accepts this usage of cookies.