
Hyfforddeiaeth
Mae’r cwrs Hyfforddeiaeth Lefel 1 yn cynnig rhaglen ddiddorol i ddysgwyr ac mae’n canolbwyntio’n glir ar waith, gan roi sylw i’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector chwaraeon a hamdden.
Why the project is needed?
Ar ddiwedd 2019, nid oedd 11.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
How did we help?
Daw 52% o’n cyfranogwyr yn dod o 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ne Cymru
What are the results?
Symudodd 28 o ddysgwyr ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth
Mae’r cwrs Hyfforddeiaeth Lefel 1 yn caniatáu i bobl ifanc 16-19 oed gyfuno eu hastudiaethau gyda sesiynau ymarferol. Mae’r cwrs yn ddilyniant naturiol i fyfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs Ymgysylltu â Hyfforddeiaethau.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio’n glir ar waith, gan roi sylw i’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector chwaraeon a hamdden.
Mae’r unedau’n cynnwys sut mae’r corff yn gweithio, cynllunio rhaglen ffitrwydd, helpu i hyfforddi, a chyfleoedd am swyddi ym maes chwaraeon. Fel elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, rydyn ni’n gallu cynnig cyfleoedd profiad gwaith gwych a lleoliadau gwaith sy’n gysylltiedig â’r sector, o fewn Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac adrannau helaeth Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Y dull astudio nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwn yw 5 diwrnod yr wythnos, sy’n cynnwys 50% o sesiynau ystafell ddosbarth a 50% o sesiynau ymarferol. Wrth gymryd rhan yn y cwrs, bydd myfyrwyr yn cael £50 yr wythnos yn ogystal ag unrhyw gostau teithio.
Hyd: 24 wythnos (Cofrestru gydol y flwyddyn)
Dull astudio: Amser llawn
Gofynion Mynediad: Sgôr asesiad cychwynnol Mynediad 3 neu uwch
Cymhwyster: Sgiliau Hanfodol – Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu – Cymhwyso Rhif Cymorth Cyntaf – BTEC Lefel 1 mewn Chwaraeon
The site uses cookies to enable functionality and provide site usage data. Details can be found in our Privacy Policy. Continuing to use this site implicitly accepts this usage of cookies.