Hyfforddeiaeth yn ymestyn i Gaerffili

03 Chwefror 2022

Mae Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ehangu ei gynnig Hyfforddeiaethau i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl ifanc gyda chyfleoedd addysg a chyflogaeth.

Gyda’r prosiect hwn, bydd pobl ifanc yn astudio ac yn gweithio tuag at gwblhau cymhwyster BTEC Lefel 1 mewn Chwaraeon. Bydd y prosiect yn ehangu i Ganolfan Hamdden Caerffili ac yn dechrau ar 28 Chwefror 2022.

Mae ein cwrs Hyfforddeiaeth yn rhoi cyfle i bobl ifanc 16-19 oed gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol ochr yn ochr â’u hastudiaethau – gan ennill cymwysterau, meithrin gwybodaeth a datblygu sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sector chwaraeon a hamdden.

Mae Tia yn un o nifer o ddysgwyr lle mae ein prosiect Hyfforddeiaethau wedi ei helpu i gael ei siwrnai addysgol yn ôl ar y trywydd iawn. Erbyn hyn, mae hi ar y trywydd iawn i astudio yn y Brifysgol ym mis Medi.

Gwylio Stori Tia...

Dywedodd Pennaeth Addysg a Hyfforddiant y Sefydliad, Fiona Lott:

“Rydym yn ymdrechu i wella cyfleoedd bywyd i bobl ifanc drwy eu cefnogi gyda chyfleoedd addysg a chyflogaeth o ansawdd uchel. Bydd y safle newydd hwn yng Nghaerffili yn ein galluogi i barhau â’n cefnogaeth i bobl ifanc a rhoi llwyfan iddynt ailgydio yn eu siwrnai addysgol.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae cofrestru, cliciwch yma.

The site uses cookies to enable functionality and provide site usage data. Details can be found in our Privacy Policy. Continuing to use this site implicitly accepts this usage of cookies.