Mae cefnogwyr Dinas Caerdydd yn codi arian hanfodol i blant a phobl ifanc

27 Medi 2021

Ddydd Sul 26 Medi, dilynodd cefnogwyr Dinas Caerdydd y cwrs fel rhan o 10K Bae Caerdydd – y digwyddiad codi arian wyneb yn wyneb cyntaf i ni fod yn rhan ohono ers dros 18 mis.

Yn y tywydd braf yng Nghymru, teithiodd cefnogwyr Dinas Caerdydd o’r gogledd ac mor bell â Milton Keynes i gefnogi elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Mae’r ymdrech aruthrol wedi golygu bod y rheini sy’n codi arian ar ein rhan wedi codi dros £2000, a fydd yn mynd tuag at barhau i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ein cymunedau.

Mae cefnogwyr yr Adar Gleision yn codi dros £2000 i elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Caerdydd

Llongyfarchiadau i bob un o’n rhedwyr, a diolch o galon i chi am eich cefnogaeth.

Mae llefydd ar gael i gynrychioli elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd, Porthcawl a 10K Ynys y Barri.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio yma.

The site uses cookies to enable functionality and provide site usage data. Details can be found in our Privacy Policy. Continuing to use this site implicitly accepts this usage of cookies.