Gwirfoddoli

Mae ein gwirfoddolwyr yn weithgar ac yn frwdfrydig, ac mae eu cefnogaeth yn hanfodol i’n gwaith fel elusen. Rydyn ni'n gwerthfawrogi ymroddiad ac ymrwymiad gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de Cymru.

Yma yn y Sefydliad, dechreuodd llawer o deithiau ein gweithwyr drwy wirfoddoli. Mae ein gwirfoddolwyr yn weithgar ac yn frwdfrydig, ac mae eu cefnogaeth yn hanfodol i’n gwaith fel elusen. Rydyn ni'n gwerthfawrogi ymroddiad ac ymrwymiad gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de Cymru.

Mae sawl ffordd o wirfoddoli gyda’n gwasanaethau:

  • Gwirfoddolwr hyfforddi PL Kicks
  • Gwirfoddolwr digwyddiad y Sefydliad
  • Gwirfoddolwr digwyddiad her
  • Gwirfoddolwr diwrnod gêm
  • Gwirfoddolwr hyfforddwr anabledd

Beth bynnag rydych chi’n ei gyfrannu drwy wirfoddoli gyda ni, boed hynny’n dymhorol, unwaith yr wythnos, neu unrhyw beth yn y canol, byddwch yn dod yn aelod gwerthfawr o Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Bydd gwirfoddoli gyda’r Sefydliad yn rhoi cyfle i chi wneud y canlynol:

  • Gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn eu maes
  • Dysgu sgiliau newydd sy’n adlewyrchu’n dda ar eich CV
  • Cwrdd â phobl newydd ysbrydoledig
  • Ysbrydoli pobl i ddefnyddio brand Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd

Gan ddibynnu ar y gweithgaredd, bydd sesiynau cynefino a hyfforddiant priodol yn cael eu darparu i baratoi gwirfoddolwyr ar gyfer eu rolau. Mae’n bosib y bydd angen archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer rhai rolau.

Express your interest today!

Volunteer For Us

Individual Details and Information











The site uses cookies to enable functionality and provide site usage data. Details can be found in our Privacy Policy. Continuing to use this site implicitly accepts this usage of cookies.