
Hanner Marathon Caerdydd
Mae’r ras yn mynd â rhedwyr heibio i dirnodau mwyaf eiconig y brifddinas gyda golygfeydd hardd ac adeiladau hanesyddol...
Bydd y ras gyffrous hon ym Mhorthcawl yn cael ei chynnal ar ffyrdd caeedig, gan fynd heibio nifer o dirnodau a llecynnau glan môr godidog...
When
Start: 03 Gorffennaf 2022 at 10:00
End: 03 Gorffennaf 2022 at 14:00
Mae 10K Porthcawl yn ras gyffrous yn y dref glan môr sy’n adnabyddus am syrffio, chwaraeon a theithiau cerdded arfordirol.
Bydd 10K Porthcawl yn cael ei gynnal ar ffyrdd caeedig, gan fynd heibio nifer o dirnodau a llecynnau glan môr trawiadol gan gynnwys Bae Rest, Bae Trecco, Bae Coney, canol hardd y dref, y Pafiliwn Mawr hanesyddol a’r Goleudy eiconig ym Mhorthcawl.
Bydd llu o weithgareddau chwaraeon eraill ar gyfer teuluoedd a phlant hefyd yn cael eu cynnwys yn y diwrnod – gan gynnwys y Ras Hwyl i’r Teulu newydd, sy’n rhoi cyfle i ddarpar athletwyr gymryd eu camau cyntaf tuag at redeg.
Drwy redeg i Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd byddwch yn cael:
Drwy ymuno â thîm Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd fel rhan o 10K Porthcawl, gofynnwn i chi addo codi isafswm o £150 mewn nawdd (heb gynnwys Cymorth Rhodd).
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, mae’n costio £5 yr un - i fynegi eich diddordeb, anfonwch e-bost i fundraising@cardiffcityfc.org.uk.
The site uses cookies to enable functionality and provide site usage data. Details can be found in our Privacy Policy. Continuing to use this site implicitly accepts this usage of cookies.